Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-01-14)

 

CLA349 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("y Ddeddf").

Mewn perthynas â Chymru, caiff y lluosydd ardrethu annomestig ei gyfrifo ym mhob blwyddyn ariannol na chaiff rhestrau newydd eu llunio ynddi.  Mae 2014 yn flwyddyn o'r fath. Gwneir y cyfrifiad drwy gyfeirio at fformiwla a nodir ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf. Mae'r fformiwla yn cynnwys eitem "B", sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer, yn yr achos hwn, mis Medi 2013.

Fodd bynnag, mae paragraff 5(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i nodi swm arall ar gyfer B, cyhyd ag y bo'r swm hwnnw yn llai na'r mynegai prisiau manwerthu perthnasol.  Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2014, y bydd B yn "249".

 

Craffu technegol

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Craffu ar rinweddau

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ionawr 2014